Taith cerdded o gwpas Llanbrynmair a Bont Dolgadfan ar drywydd gwreiddiau @MorfyddOwen100 Dyma Plas Llwyn-Owen o le daeth ei henw barddol; a hen gapel (eiddo preifat erbyn hyn) Bont Dolgadfan lle addolodd hi tra'n ymweld a'i theulu yn yr ardal
Sglods o siop sglods Carini's y dre (gwasanaeth cyfeillgar iawn) a pheint yn @ClwbYBont - llawer rhatach na bwyta ar y maes! Cefnogwch busnesau lleol #eisteddfod2024
Tref diddorol ydy'r Heledd Wen (Nantwich) sydd wedi cadw'r elfen Cymraeg yn hanner cyntaf ei henw gyda'r elfen 'wych' or hen Saesneg (nag oedd Heledd yn wrach!). Dyma'r Rhes Gymreig, a stad o dai newydd yn adlewyrchu enw Cymraeg y dref @CymryLloegr @EnwauLleoedd
Gêm gyfeillgar cyffrous yn Y Fflint pnawn ma gyda'r tîm cartref @FTULadies yn curo @Llangefniladies 4-3. Hysbyseb da i bêl-droed merched yng Nghymru
1
41
Diwrnod difyr yn yr Amwythig heddiw - cysegrfa Santes Gwenffrewi yn yr abaty (braf gweld ei henw yn Gymraeg hevyd); siop coffi/popty Pont; a'r Bont Cymreig dros Afon Hafren @CymryLloegr
Hen gapeli Cymraeg yr Amwythig - capel Sgwar Hafren, sydd erbyn hyn yn rhan o adeilad modern Theatr Hafren (yn eironig braidd, 'bar y capel'!); capel Tabernacl yr annibynwyr (siop); ac eglwys Presbyteraidd Dewi Sant (fflatiau) @CymryLloegr
1
1
66
Braf gweld detholiad (eclectig!) o lyfrau Cymraeg yn llyfrgell yr Ameythig, chwarae teg. Llawer gwell na amgueddfa'r dre sydd rhywsut yn anwybyddu bodolaeth y Cymry a'r Gymraeg fel rhan o hanes y sir @CymryLloegr
1
61
Braf gweld siop veps yn Redditch, Swydd Gaerwrangon yn groesawu'r Cymry gan arddangos y ddraig goch! @CymryLloegr
3
127
Llongyfarchiadau i CPDM Llansawel ar eu dyrchafiad i'r @AdranLeagues premier gyda buddugoliaeth 4-0 yn erbyn @LlandudnoLadies ym Mharc Latham, Y Drenewydd pnawn ma. Roeddent yn haeddiannol dros y 90 munud, ond pob clod i Landudno, ymladdon nhw tan y diwedd @BFLLAFC
1
55
Ar ôl ennill ei chap cyntaf dros @Cymru yn Cosofo dydd Mawrh, 60 munud da yng nghanol cae @LiverpoolFeds gan @mayzeedavies5 yn @StourbridgeWFC pnawn ma. Buddugoliaeth 3-2 i'w thîm ar ôl gêm cystadleuol da @WMenywod
Trist iawn gweld stad truenus o fregus yr 'eglwys gadeiriol Gymraeg', sef capel Princes Rd, Toxteth @CymryLloegr
o.n. Dau ddiwrnod difyr iawn yn Lerpwl, dinas sydd yn nathlu ei chysylltiadau gydag Iwerddon, er prin mae adnabyddiaeth amlwg o'i chysylltiadau amlwg gyda Chymru a dylanwad y Cymry Cymraeg arni. Yn eironig, y Gymraeg i'w clywed o hyd ar y strydoedd yn lle'r Gwyddeleg
2
1
92
Ar daith 2 (a gobeithio 3 fyd!) o deithlyfr Gari Wyn @CeirCymru Dyma tŷ David Hughes Llanrwst (drws glas) yr adeiladwr enwog; hefyd tŷ William Jones, Tŷ'n y Graig pensaer @CymryLloegr

































