Pinned Tweet
Gŵyl Gerallt - Tachwedd 7fed a’r 8fed yn Y Bontfaen eventbrite.com/e/gwyl-gerall…
Bydd Adladd: Dilyniannau, Damian Walford Davies yn lansio nos Fercher yn Stafell Ddawns, Kings Road Yard, Caerdydd am 19:00. Bydd Gwynfor Dafydd yn holi'r bardd, ac mae croeso cynnes i bawb.
Diolch i Mererid Hopwood am ei geirda ar gyfrol gyntaf Damian o farddoniaeth Gymraeg 🙏
Roedd y tywydd garw yn ein herbyn neithiwr, ond diolch o galon i bawb a fynychodd ein digwyddiad i ddathlu Carco, Menna Elfyn, yn y Stafell Ddawns, Kings Road Yard.
[1/3]
Yn arbennig felly, diolch i Rhiannon Marks am yr holi deheuig, i Siop Caban am eu parodrwydd i werthu'r gyfrol, ac i Let Them See Cake am y cacennau nefolaidd ✨
[2/3]
Mae eitem lawn ar Menna Elfyn yn rhifyn diweddaraf @CylchgrawnGolwg – da chi, ewch i'w ddarllen! Diolch i @DafyddLlinos am ei brwdfrydedd dros holi Menna ✊
[3/3]
💫 ! WEDI CYHOEDDI ! 💫
Mae'r gyfrol Adladd: Dilyniannau, cyfrol gyntaf o farddoniaeth Gymraeg Damian Walford Davies bellach ar gael yn eich siop lyfrau leol am £9.95.
Bydd y gyfrol hon yn lansio yn Stafell Ddawns, Kings Road Yard, Caerdydd ar yr 28ain o Dachwedd am 19:00 ✨✨
Yn sgil neges a dderbyniwyd gan y Cyngor Llyfrau am broblemau diogelwch yn ymwneud â gwefannau sy’n defnyddio ‘iaith' PHP, bu i Barddas weithredu’n rhagofalus drwy gau ein gwefan am gyfnod.
[1/3]
Roedd ein hasesiad mewnol yn dangos nad oedd cynnwys ein gwefan wedi’i gyfaddawdu ac rydym bellach wedi derbyn gwybodaeth bod ein gweinydd wedi ei ddiweddaru. Mae ein gwefan bellach wedi ei hagor.
[2/3]
'Dyma lais Caerdydd, llais Cymru, a llais rhyngwladol.'
Diolch o galon i Lisa Gwilym am rannu ei theimladau ar ôl darllen Geraint Jarman: Cerddi a Chaneuon, gol. Marged Tudur.
Ar werth yn eich siop lyfrau leol heddiw | £14.95 🙂↔️
Diolch i Iestyn Hughes am ei adolygiad caredig ar Prifeirdd Cymru, Twm Morys ac Emyr Young, yn rhifyn diweddaraf Cylchgrawn Barn. Mae'n werth darllen yr adolygiad ar ei hyd!
• Ar werth yn eich siop lyfrau leol heddiw | £17.95 •
I'r rhai a fethodd lansiad Cestyll Tywod yn y Babell Lên eleni, dyma rannu newyddion da o lawenydd mawr!
Cynhelir digwyddiad yng Nghlwb Rygbi Crymych ar yr 20fed o Dachwedd am 19:00 i ddathlu cyhoeddi'r gyfrol.
Heidiwch draw! Bydd croeso cynnes (a bar!) yn aros amdanoch 💫
Ambell lun o'r noson yn Drwm, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth i ddathlu cyhoeddi Carco – cyfrol fawr sy'n rhychwantu hanner canrif o farddoniaeth y bardd, Menna Elfyn.
Mae'r gyfrol hon ar werth yn eich siop lyfrau leol heddiw am £12.95.
Ar yr 22ain o Hydref (💥wythnos i heno💥) bydd digwyddiad yn cael ei gynnal yn Stafell Ddawns, Kings Yard Road, Caerdydd am 19:00 i ddathlu cyhoeddi Carco, Menna Elfyn. Bydd y bardd yn cael ei holi gan Rhiannon Marks.
Dyma rannu'r hyn oedd gan Rhiannon i'w ddweud am y gyfrol.
❗️LANSIAD❗️
Bydd Adladd: Dilyniannau, Damian Walford Davies yn lansio yn Stafell Ddawns, Kings Road Yard, Caerdydd ar yr 28ain o Hydref am 19:00.
Bydd Gwynfor Dafydd yn holi'r bardd, a Siop Caban yn gwerthu'r gyfrol ar y noson.
Dewch yn llu! Croeso gwresog i bawb 💫
Barddas yr Hydref - Cofiwch mai dim ond tanysgrifwyr fydd yn derbyn yr atodiad sy’n cynnwys pedair awdl ac un bryddest ddaeth i’r brig yn Eisteddfod y Garreg Las … barddas.cymru/tanysgrifio/
























